P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Wendy Brady, ar ôl casglu cyfanswm o 9,867 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae plant sy’n gwneud athletau, gymnasteg, nofio, pêl-droed yn cael eu hatal rhag parhau â’u hyfforddiant gyda’u clybiau yn y chwaraeon o’u dewis oherwydd ffiniau’r ardaloedd dan gyfyngiadau symud.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae clybiau wedi cyflwyno gweithdrefnau diogelwch ar gyfer COVID-19 a chaniateir i blant o fewn ffiniau'r sir hyfforddi, ond nid yw’r rhai y tu allan i'r ardaloedd yn cael gwneud hynny. Mae hyn yn golygu bod cyfleusterau chwaraeon yng Nghasnewydd, Abertawe a Chaerdydd ar gael ar gyfer y plant yn ardal y sir yn unig, tra bod plant sy'n byw dim ond pum milltir i ffwrdd yn cael eu hatal rhag hyfforddi. Hoffem i'r Senedd ganiatáu i blant fynychu eu clybiau chwaraeon a'i gwneud yn “esgus rhesymol” dros fynd i mewn i ardal dan gyfyngiadau symud fel y gall plant barhau i hyfforddi yn ystod misoedd y gaeaf.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyrain Casnewydd

·         Dwyrain De Cymru